Rhif y Ddeiseb: P-06-1476

P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.

Geiriad y ddeiseb:  Sicrhau clustogfa orfodol ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol yng Nghymru.  Rydym yn cynnig clustogfa o 1,000.00 metr o leiaf oddi wrth yr holl ardaloedd preswyl, ysgolion, ysbytai a chyfleusterau gofal. Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn caniatáu i chwareli gael eu lleoli mor agos â 200 metr i ffwrdd o ardaloedd preswyl ac ysgolion.  Mae hyn yn effeithio ar iechyd pobl ac yn achosi difrod i eiddo. Gorau po fwyaf maint y glustogfa y gallwn ei chael.

 


1.        Y cefndir

Amlinellir y polisi cynllunio cenedlaethol yn nogfen Polisi Cynllunio Cymru (PPW). Dywed y Polisi y dylai cynlluniau datblygu nodi’n glir glustogfeydd o amgylch safleoedd mwynau presennol a safleoedd mwynau arfaethedig lle y dylid gwrthsefyll datblygiadau newydd a fyddai’n sensitif i’w heffaith andwyol, gan gynnwys ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion.

Mae paragraff 5.14.45 o’r Polisi yn nodi y byddai maint mwyaf y glustogfa’n dibynnu ar nifer o ffactorau:

 … maint, math a lleoliad y gweithfeydd, topograffi’r ardal o’u hamgylch, y lefelau presennol a disgwyliedig o sŵn a llwch, y dirgrynu a welir ar hyn o bryd ac a ragwelir yn sgil gwaith ffrwydro, a’r mesurau lliniaru sydd ar gael.

Yn ôl paragraff 5.14.46: “Bydd clustogfeydd, o reidrwydd, yn amrywio o ran maint yn dibynnu ar ba fwyn sy’n cael ei gloddio ac ar natur y gwaith, …”

Mae paragraffau Polisi Cynllunio Cymru sy'n ymwneud â chlustogfeydd wedi'u hatgynhyrchu'n llawn yn yr atodiad i'r papur briffio hwn.

Mae’r Polisi hefyd yn cyfeirio at y nodiadau cyngor technegol ar fwynau. Mae Nodyn cyngor technegol mwynau (MTAN) Cymru 1: agregau yn dweud y dylai’r pellter lleiaf o chwarel craig galed fod yn 200 metr, ac ar gyfer tywod a graean (ac eraill lle na chaniateir ffrwydro) dylai fod yn 100 metr.

Mae MTAN 1 hefyd yn nodi:

The buffer zone should be defined from the outer edge of the area where extraction and processing operations will take place, including site haul roads, rather than the site boundary, as there may be land within site boundaries where mineral activities are limited or no operations are proposed so that the impact of the proximity of such land is negligible.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, at y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon ar 7 Hydref 2024. Ailadroddodd bolisi Llywodraeth Cymru, fel y nodir uchod:

Mae polisi cynllunio cynhwysfawr a chadarn ar reoli effeithiau chwarela i'w gweld yn Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (MTAN1).

Prif bwrpas parthau clustogi yw cyfyngu ar yr effaith y mae gweithio mwynau yn ei chael, a diogelu'r mathau hynny o ddefnydd tir sy'n fwyaf sensitif i effaith gwaith mwynau drwy sefydlu pellteroedd gwahanu rhwng mathau o ddefnydd tir a allai fod yn gwrthdaro â'i gilydd.

Y parth clustogi 200m a amlinellir mewn polisi cenedlaethol yw'r pellter gwahanu lleiaf sy'n ofynnol, a dylid diffinio'r parth clustogi o ymyl allanol yr ardal lle mae'r gwaith cloddio a phrosesu yn digwydd, gan gynnwys y ffyrdd cludo ar y safle, yn hytrach nag o ffin y safle.

Byddai terfyn pellaf y parth clustogi yn dibynnu ar nifer o ffactorau: ar y math o waith, ac ar ei faint a'i leoliad; topograffi'r ardal gyfagos; y lefelau presennol a disgwyliedig o sŵn a llwch; y lefelau presennol a disgwyliedig o ddirgrynu oherwydd y gwaith ffrwydro; ac unrhyw fesurau lliniaru.

Bydd clustogfeydd, o reidrwydd, yn amrywio o ran eu maint, gan ddibynnu ar ba fwyn sy’n cael ei gloddio ac ar natur y gwaith, ond rhaid iddynt gael eu diffinio a’u nodi’n glir yn y mapiau cynigion sydd mewn cynlluniau datblygu.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ar 16 Hydref 2024 cafwyd dadl yn y Senedd a Chynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar y Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli. Cyflwynwyd y cynnig gan Heledd Fychan AS a’i eirio fel a ganlyn:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r broses gynllunio;

b) gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol; ac

c) darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ddadl nad yw’n cytuno y byddai deddfwriaeth newydd yn briodol nac yn effeithiol, gan fod amgylchiadau’n amrywio fesul achos. Mae hi'n credu bod penderfyniadau cynllunio sy'n ymwneud â chwareli yn lleol iawn a'r ffordd orau o ymdrin â hwy yw drwy'r polisïau priodol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Dywedodd hefyd:

Gallai cyflwyno parth clustogi gorfodol o 1,000m arwain at ganlyniadau anfwriadol, a fyddai'n atal defnyddio tir at ddefnydd arall, gan wahardd neu effeithio'n andwyol ar ddarparu seilwaith allweddol, fel adeiladu tai, er enghraifft.

Cododd nifer o Aelodau bryderon yn ystod y ddadl, gan gynnwys Heledd Fychan AS, a ofynnodd a yw’r polisi presennol yn adlewyrchu cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd a nodau Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024. Tynnodd Hefin David AS sylw at y ffaith nad oedd MTAN 1 wedi'i ddiweddaru ers 2004, a gofynnodd a oedd rhinwedd i'w adolygu.

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i’r pryderon hyn gan ddweud y bydd yn ystyried adolygu’r canllawiau pe bai tystiolaeth yn awgrymu nad oeddent bellach yn gyfredol.

Gwrthododd y Senedd y cynnig ar gyfer y ddadl: O blaid: 14, Yn erbyn: 18, Ymatal: 15.

4.     Atodiad – geiriad Polisi Cynllunio Cymru

Clustogfeydd

5.14.44 Yn aml, ceir gwrthdaro rhwng gweithfeydd mwynau a defnyddio tir at ddibenion eraill, a hynny oherwydd yr effaith amgylcheddol a gaiff sŵn a llwch sy’n codi wrth gloddio am fwynau a’u prosesu, a dirgrynu oherwydd gwaith ffrwydro. Dylai awdurdodau cynllunio ddefnyddio clustogfeydd i warchod ardaloedd o amgylch gweithfeydd mwynau sy’n bodoli eisoes a gweithfeydd arfaethedig o’r fath. Y nod yw osgoi datblygiadau newydd a fyddai’n sensitif i effeithiau andwyol, gan gynnwys ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion. O fewn y glustogfa, ni ddylid cloddio o’r newydd am fwynau ac ni ddylid caniatáu datblygiadau sensitif newydd, ac eithrio lle bo safle’r datblygiad newydd, mewn perthynas â’r gwaith mwynau, wedi’i leoli mewn ardal adeiledig sydd eisoes yn bodoli, neu ar ochr bellaf ardal adeiledig o’r fath sydd eisoes yn rhan o’r glustogfa. Gall datblygiadau eraill, gan gynnwys diwydiant, swyddfeydd a rhai datblygiadau ategol sy’n ymwneud â gweithfeydd mwynau, sy’n llai sensitif i effeithiau gweithfeydd mwynau, fod yn dderbyniol o fewn y glustogfa fesul achos.

5.14.45  Er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng gweithfeydd mwynau a defnyddio tir at ddibenion eraill, dylid dynodi clustogfeydd mewn cynlluniau datblygu o amgylch safleoedd mwynau sy’n bodoli eisoes neu o amgylch safleoedd mwynau arfaethedig. Byddai maint y glustogfa’n dibynnu ar nifer o ffactorau: maint, math a lleoliad y gweithfeydd, topograffi’r ardal o’u hamgylch, y lefelau presennol a disgwyliedig o sŵn a llwch, y dirgrynu a welir ar hyn o bryd ac a ragwelir yn sgil gwaith ffrwydro, a’r mesurau lliniaru sydd ar gael.

5.14.46 Bydd clustogfeydd, o reidrwydd, yn amrywio o ran maint yn dibynnu ar ba fwyn sy’n cael ei gloddio ac ar natur y gwaith, ond rhaid eu diffinio a’u nodi’n glir ar fapiau cynigion cynlluniau datblygu. Bydd hyn yn sicrhau bod canllawiau diamwys ar gael ar ba mor agos y caiff gweithfeydd mwynau fod at ddefnydd sensitif o dir. Bydd yn fodd hefyd i wneud yn siŵr bod effaith bosibl gweithfeydd mwynau, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn cael ei chydnabod ac y cynllunnir ar ei chyfer yn yr ardal o amgylch y gweithfeydd mwynau. Mae canllawiau pellach yn yr MTAN ar y ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddiffinio clustogfeydd ar gyfer mwynau penodol.  Er mai prif bwrpas clustogfeydd yw cyfyngu ar effaith gweithfeydd mwynau dylid ystyried eu rôl fuddiol ehangach fel rhan o ddarpariaeth seilwaith gwyrdd a diogelu a gwella bioamrywiaeth.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.